Mae artistiaid o bob math o bob cwr o’r DU yn cael eu herio i ddefnyddio’r genedl fel cynfas gwag ar gyfer deuddeg darn o waith comisiwn ysbrydoledig a fydd yn dangos ein creadigrwydd i’r byd, fel rhan o Olympiad Diwylliannol Llundain 2012.
Artistiaid ar y Blaen yw’r wobr fwyaf uchelgeisiol ac eang ym maes y celfyddydau yn y DU, ac mae’n cael ei datblygu gan Gyngor Celfyddydau Lloegr mewn partneriaeth â Llundain 2012 a chynghorau celfyddydau Cymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon.
Dyfernir 12 comisiwn gwerth hyd at £500,000 i greu 12 gwaith celf newydd ledled y wlad; un ym mhob un o naw rhanbarth Lloegr ac un yr un yng Nghymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon.
Artistiaid ar y Blaen yw’r wobr fwyaf uchelgeisiol ac eang ym maes y celfyddydau yn y DU, ac mae’n cael ei datblygu gan Gyngor Celfyddydau Lloegr mewn partneriaeth â Llundain 2012 a chynghorau celfyddydau Cymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon.
Dyfernir 12 comisiwn gwerth hyd at £500,000 i greu 12 gwaith celf newydd ledled y wlad; un ym mhob un o naw rhanbarth Lloegr ac un yr un yng Nghymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon.
Artistiaid ar y Blaen yw’r cyntaf o ddeg prif brosiect Olympiad Diwylliannol Llundain 2012 i gael ei lansio. Mae’n rhoi cyfle i artistiaid o bob cwr o Brydain greu gwaith sy’n dathlu Gemau Olympaidd a Gemau Paralympaidd Llundain 2012 ac yn adlewyrchu amrywiaeth ddiwylliannol gyfoethog y DU.
Meddai Moira Sinclair, Cyfarwyddwr Gweithredol Cyngor Celfyddydau Lloegr, Llundain, ar ran cynghorau celfyddydau’r DU: ‘Mae Llundain 2012 yn golygu mwy na phrifddinas Lloegr a chwaraeon. Mae Artistiaid ar y Blaen yn dangos gweledigaeth fwy eang – sef celf yn ysbrydoli pobl ledled y DU i ddathlu’r Gemau Olympaidd, meithrin a datblygu ein doniau artistig a diwylliant a bod creadigrwydd wrth wraidd ein bywyd cenedlaethol.
‘Rydym yn falch iawn o gyflwyno her o’r fath i artistiaid. Rydym am iddynt edrych ar eu rhanbarth a’u cysylltiadau mewn goleuni newydd, nodi moment yn ein hanes mewn ffyrdd a llefydd annisgwyl ledled y wlad i synnu a rhoi pleser i’r byd trwy eu gweledigaeth artistig eithriadol.’
O heddiw, 19 Mawrth, tan ddydd Gwener 29 Mai, gall artistiaid gyflwyno’u syniadau ar gyfer y comisiynau ar-lein yn www.artiststakingthelead.org.uk
Meddai Sebastian Coe, Cadeirydd Llundain 2012: ‘Mae’r Olympiad Diwylliannol yn deillio o ddechreuadau’r mudiad Olympaidd modern, pan oedd artistiaid yn cystadlu am fedalau hefyd. Mae Artistiaid ar y Blaen yn ennyn yr ysbryd hwn, gan ddathlu doniau unigryw artistiaid a rhoi cyfle iddynt greu gwaith wedi’i ysbrydoli gan Lundain 2012 a’r ysbryd Olympaidd. Dyma’r cam cyntaf ar daith ryfeddol wrth i’n cynlluniau ar gyfer y Gemau yn 2012 – o ran chwaraeon a diwylliant – ddechrau gael eu llunio’n bendant.’
Meddai Barbara Follet, y Gweinidog dros Ddiwylliant, Diwydiannau Creadigol a Thwristiaeth: ‘Y peth mwyaf cyffrous am y prosiect hwn yw y bydd yn darparu nod greadigol ar gyfer Gemau Llundain 2012 ym mhob gwlad a rhanbarth yn y DU, gan uno’r wlad trwy ddiwylliant a gadael ei farc yn barhaol wrth i bobl gymryd rhan a chyfrannu ato.’
Caiff y syniadau eu beirniadu gan baneli ym mhob gwlad a rhanbarth, sy’n cynnwys artistiaid, y Rhaglenwyr Creadigol (cynrychiolwyr Llundain 2012 y tu allan i’r brifddinas sy’n helpu i lywio Olympiad Diwylliannol y DU) a chynrychiolydd o Gyngor y Celfyddydau.
Mae Cyngor Celfyddydau Lloegr yn bwriadu cyhoeddi’r rhestr fer o artistiaid ym mis Gorffennaf 2009, a’r deuddeg comisiwn terfynol ym mis Hydref 2009. Caiff y comisiynau buddugol eu datblygu yn 2010 a 2011, a bydd y deuddeg yn cymryd rhan mewn dathliad terfynol cyn agoriad Gemau Olympaidd Llundain 2012.
Am ragor o wybodaeth, ewch i www.artiststakingthelead.org.uk
Cysylltiadau’r Wasg:
Lloegr: sophie.woodward@artscouncilengland.org.uk
Cymru: joanna.davies@artswales.org.uk
Yr Alban: media.office@scottisharts.org.uk
Gogledd Iwerddon: bmcsorley@artscouncil-ni.org





